![]() |
Fishguard Goodwick and surrounding area |
Beth yw ystyr penllanw’r cyflenwad olew? Nid yw penllanw’r cyflenwad olew yn golygu rhedeg allan o olew ond yn hytrach rhedeg allan o olew rhad. Pryd fydd cynhyrchu olew byd-eang yn cyrraedd penllanw? Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio mwy na 4 casgen o olew am bob un sy’n cael ei darganfod. Canlyniadau penllanw’r cyflenwd olew Mae angen tua 10 calori o ynni tanwydd ffosil i gynhyrchu pob calori o fwyd a gaiff ei fwyta yn yr UDA. Bydd penllanw’r cyflenwad olew yn arwain at gynnydd dramatig mewn pris, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol i wleidyddiaeth, ffyrdd o fyw, amaethyddiaeth a’r economi yn fyd-eang. Sut y byddwch yn cyrraedd y gwaith, yr ysgol, y doctor ? O ble y daw ein bwyd? Sut caiff ei ddosbarthu? |
Beth gellir ei wneud? Gallai ein hymateb i’r penllanw cyflenwad olew helpu i leihau bygythiad newid hinsawdd Yn ganolog i syniad y Trefi Trawsnewid y mae’r Cynllun Gweithredu Gostwng Ynni sef y bwriad o leihau’r defnydd o danwydd ffosil ym mhob agwedd o fywyd gan gynnwys bwyd, tai, iechyd, addysg a’r economi lleol.
|
Ffynonellau: Energy Bulletin, 2007, Peak Oil primer (http://www.energybulletin.net/primer.php#primer); Graham Strouts, 2007, What is Peak Oil (http://transitionculture.org/what-is-peak-oil/ ). Quotations/figures: (1) NATIONAL PETROLEUM COUNCIL, July 18, 2007, Facing the Hard Truths about Energy, A comprehensive view to 2030 of global oil and natural gas, Draft Report. (2) M King Hubbert, 1956, Nuclear Energy and the Fossil Fuels, Shell Development Company |
|